Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 17 Mehefin 2015

 

 

 

Amser:

09.05 - 11.53

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3011

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

David Rees AC (Cadeirydd)

Alun Davies AC

John Griffiths AC

Mike Hedges AC (yn lle Lynne Neagle AC)

Altaf Hussain AC

Elin Jones AC

Darren Millar AC

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

Kirsty Williams AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Dr Ruth Hussey, Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Martin Sollis, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Llinos Madeley (Clerc)

Helen Finlayson (Ail Glerc)

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Sian Giddins (Dirprwy Glerc)

Rhys Morgan (Dirprwy Glerc)

Zoe Kelland (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

1   Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod yr adroddiad drafft;

1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Cytunodd i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin, 2015.

 

</AI2>

<AI3>

2   General and financial scrutiny of the Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Health: discussion of approach

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cyffredinol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd yn gyffredinol ac yn ariannol.

 

</AI3>

<AI4>

3   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.

 

</AI4>

<AI5>

4   Sesiwn graffu gyffredinol a chraffu ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd

4.1 Bu’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

-     Dadansoddiad o’r dyraniadau ychwanegol o £6.8 miliwn ar gyfer y perfformiad gofal wedi’i gynllunio a £6.8 miliwn ar gyfer pwysau’r gaeaf i’r byrddau iechyd, a ddarparwyd yn ystod 2014-15, (y nodwyd y manylion yn eu cylch ym mharagraff 8 o’ch papur ysgrifenedig), fesul bwrdd iechyd unigol;

-     manylion am gynnwys cyffredinol y cyllidebau gofal iechyd sylfaenol a gofal iechyd eilaidd, gan gynnwys gwybodaeth am:

-     ddyraniadau a wnaed i wasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn, yn 2014-15;

-     y gyfran o’r gorwariant yn 2014-15 a oedd i’w briodoli i ofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn; ac

-     y codiadau / gostyngiadau ar gyfer cyllidebau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, yn ôl eu trefn, ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf, yn arbennig fel cyfran o gyllideb gyffredinol yr adran.

-     cadarnhad o’r dyddiad y rhoddwyd gwybod i fyrddau iechyd yng Nghymru na fyddai angen ad-dalu’r gorwariant a’r cyllid broceriaeth a ddarparwyd ar ddiwedd 2013-14, cyn cychwyn Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014; ac

-     y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru o ran y llifau ariannol ar draws ffiniau byrddau iechyd.

 

</AI5>

<AI6>

5   P-04-625 Cefnogaeth  i’r Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru): cynnig i gau’r ddeiseb

5.1 Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i argymell y dylid cau’r ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

6   Papurau i’w nodi

 

</AI7>

<AI8>

6.1 Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Mai a 3 Mehefin

6.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion cyfarfodydd 21 Mai a 3 Mehefin 2015.

 

</AI8>

<AI9>

6.2 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol

6.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.

 

</AI9>

<AI10>

7   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 25 Mehefin 2015

7.1 Derbyniodd y cynnig.

 

</AI10>

<AI11>

8   Sesiwn graffu gyffredinol ac ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: ystyried y dystiolaeth

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI11>

<AI12>

9   Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod  y dull o graffu yng Nghyfnod 1.

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 a chytunodd i:

·         gyhoeddi cais cyffredinol am dystiolaeth, gyda chyfnod ymgynghori o 11 wythnos, o 19 Mehefin tan 4 Medi 2015;

·         drafod ymhellach amserlen y sesiynau tystiolaeth lafar yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2015.

 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>